Noswaith dda a chroeso i gwefan Newid Hinsawdd Cymru.

 

Athrawon:

Cofrestrwch a mewngofnodwch i gael mynediad at daflenni dosbarth a rhannu gwybodaeth

Cofrestrwch ar-lein
neu Mewngofnodwch

Beth sy’n llunio Ôl-troed Carbon?

Efallai mai dyma’r cyfraniad mwyaf amlwg at ein ôl-troed carbon.  Pan losgir tanwyddau ffosil mae’r cynnyrch CO2,  a gafodd ei gloi i fyny dros filiynau o flynyddoedd, yn cael ei ryddhau. Y cynnydd sydyn yn ein defnydd o danwydd ffosil sydd wedi achosi cynhesu byd-eang. Mwy...

Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd

Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd

Mae amcangyfrifon diweddar o boblogaethau adar Ewrop yn awgrymu bod poblogaethau 71% o rywogaethau adar wedi newid ers 1900, ac y gallai 44% o’r newidiadau hynny fod wedi digwydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mwy...

Ynni niwclear

Ynni niwclear yw un o’r ffyrdd mwya dadleuol o gynhyrchu trydan.  Mae gorsafoedd ynni niwclear yn gallu cynhyrchu mesurau uchel o ynni bron â bod yn ddi-baid. Mae angen nifer fawr o bobol i weithio ynddynt ac mae hyn yn creu swyddi medrus yn yr ardaloedd lle mae’r gorsafoedd. Mae’r gwrthwynebwyr yn tynnu sylw at y difrod y gellid ei achosi  gan ddamwain neu ymosodiad terfysgol, y gwastraff peryglus  sy’n cael ei gynhyrchu, ac aneffeithlonrwydd cynhyrchu mesurau sylweddol o drydan mewn lleoliadau anghysbell.

Beth yw’r broblem?

Beth yw’r broblem?

Beth yw’r broblem?
Mae mwy na 30 miliwn o gerbydau ar y ffordd yn y DU. Am bob milltir y bydd car betrol bach yn ei deithio, bydd yn rhyddhau 280g o CO2, ac am bob car disel bach, caiff 190g o CO2 ei ryddhau. Mae gyrru 360 milltir yn gyfwerth ag ôl-troed carbon cyfan rhywun ar gyfartaledd yn y byd datblygol.
Ffigurau oddi wrth WRI

Adral Athrawon

Gallwch gofrestru am ddim a chael mynediad at weithgareddau bwrdd gwyn, cyflwyniadau, syniadau ar gyfer gwasanaethau a brysluniau.

Cliciwch yma os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair

Pembrokeshire Coast National Park Welsh Assembly Government Tyf Adventure 1% for the planet Menter Sir Benfro Countryside Council for Wales Centre for Alternative Technology Museum Wales

Dylunio . Design Hoffi: Dylunio creadigol. Syniadau dwyieithog.