Biodanwyddau
I gynhyrchu 1kWh o wres gan ddefnyddio trydan o’r grid cenedlaethol, caiff 500g o CO2 ei gynhyrchu. I gynhyrchu’r un faint o wres gan ddefnyddio coed, dim ond 24g o CO2 a gaiff ei gynhyrchu. Ffigur oddi wrth yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol
Mwy...
Mapiau Llifogydd
Mae cynnydd yn lefel y môr yn effaith hinsoddol pwysig yng Nghymru ac yn fyd-eang. Ledled y byd, gallai 100 miliwn o bobl gael eu dadleoli gan lifogydd arfordirol. Seilir y mapiau ar fapiau Google, a darparwyd. Mwy
Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd
Mae amcangyfrifon diweddar o boblogaethau adar Ewrop yn awgrymu bod poblogaethau 71% o rywogaethau adar wedi newid ers 1900, ac y gallai 44% o’r newidiadau hynny fod wedi digwydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mwy...
Dylunio
Mae’r rhan fwyaf o ynni’r byd yn dod o losgi tanwydd ffosil. Mae hyn yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr ac yn ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ddylunwyr feddwl am yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu a defnyddio’u cynnyrch. Rhaid i waith dylunio yn y dyfodol ystyried cynnyrch sydd o fudd i bobl ac i’r blaned. Mwy...
Newid Hinsawdd Cyfnod Allweddol 4
Elusen gofrestredig a leolir yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, yw Canolfan Eco Gorllewin Cymru. Rydym yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol defnyddio ynni. Rydym yn ymddiddori’n bennaf yn y newid yn yr hinsawdd a geir o ganlyniad i ddefnyddio ynni. Mae gan wyddonwyr dystiolaeth gref fod y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd gennym yn newid hinsawdd y byd.
Mae’n ym ddangos bod newyddion am Newid Hinsawdd ym mhob man y dyddiau hyn. Efallai bod gwreiddiau hyn mewn gwyddoniaeth, ond mae ganddo oblygiadau i wleidyddiaeth, arian, grym a’n bywydau personol. Dyma fydd y pwnc llosg heb os am y 100 mlynedd nesaf. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi’r wybodaeth gywir am ei effeithiau ar Gymru, er mwyn i chi allu gwneud y penderfyniadau gorau ar eich rhan eich hun a’ch cymuned.