Noswaith dda a chroeso i gwefan Newid Hinsawdd Cymru.

 

Athrawon:

Cofrestrwch a mewngofnodwch i gael mynediad at daflenni dosbarth a rhannu gwybodaeth

Cofrestrwch ar-lein
neu Mewngofnodwch

Tanwydd ffosil

Daw ynni tanwydd ffosil o’r haul.  Cynyddodd yr ynni yn y tanwydd ffosil dros filiynnau o flynyddoedd.  Er mwyn cyfnewid cymaint â hyn o egni trwy ei ddal o’r haul mewn planhigion a’u troi wedyn i biodanwydd, byddai angen tir sylweddol.  Mae angen y tir hwn i gynhyrchu bwyd.

Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd

Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd

Mae amcangyfrifon diweddar o boblogaethau adar Ewrop yn awgrymu bod poblogaethau 71% o rywogaethau adar wedi newid ers 1900, ac y gallai 44% o’r newidiadau hynny fod wedi digwydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mwy...

Y cyfartaledd ôl-troed carbon fesul person yn y DU

Y cyfartaledd ôl-troed carbon  fesul person yn y DU yw 10 tunnell fetrig. mwy...

Coed

Gall coed ddarparu ffynhonnell o wres ac ynni carbon-niwtral. Mwy...

Trafodaeth Fawr y Newid yn yr Hinsawdd - Sut i gymryd rhan.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gefnogol ar gyfer Y Ddadl Fawr Newid Hinsawdd – Sut i chwarae eich rhan. 

Er mwyn llwytho i lawr neu ofyn am gopi caled galwch heibio

www.wales.gov.uk/climatechange
www.walescarbonfootprint.gov.uk
 
.  Mae’r pecyn hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda chardiau data ar gyfer y gwledydd a’r bobl allweddol fydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen, map o’r byd, awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a nodiadau i’r athro. 
Cyfeiria dau weithgaredd yn benodol (1 a 6) at wybodaeth bellach sydd ar gael ar y wefan hon. 
 
 

Gweithgaredd 1:Graffiau Dynol

Graff 3, Byrdwn y gweithgaredd hwn yw annog myfyrwyr yn y dosbarth i gynhyrchu graff gwasgariad i gymharu gwybodaeth ar y cardiau gwledydd. Gellir cael gafael ar daenlen gyda’r data arni yma i alluogi’r myfyrwyr baratoi eu graffiau eu hunain yn defnyddio Excel neu debyg.

Ôl-troed carbon. Dyma un elfen o’r ôl-troed eco a gyfrifir trwy drosi’r amrywiol allyriadau nwyon tŷ gwydr i dunelli o garbon deuocsid cyfatebol. Gall myfyrwyr ganfod beth sy’n gwneud ôl-troed carbon yma

Gellir canfod gwybodaeth fanylach a setiau data ôl-troed fan hyn. www.footprintnetwork.org

Taflen Gweithgaredd 6: Map Llifogydd Ar-lein

Gwnewch restr o wledydd sydd ag arfordir? Defnyddiwch atlas neu’r flood map ar-lein i benderfynu pa wledydd sydd mewn perygl wrth i lefel y môr godi

Os oes gennych gwestiynau neu adborth ar gyfer yr awdur, yna, cysylltwch â tim@ecocentre.org.uk

Pembrokeshire Coast National Park Welsh Assembly Government Tyf Adventure 1% for the planet Menter Sir Benfro Countryside Council for Wales Centre for Alternative Technology Museum Wales

Dylunio . Design Hoffi: Dylunio creadigol. Syniadau dwyieithog.