Y Ddadl Fawr Newid Hinsawdd – Sut i chwarae eich rhan.
Mae’r pecyn hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda chardiau data ar gyfer y gwledydd a’r bobl allweddol fydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen, map o’r byd, awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a nodiadau i’r athro.
Mwy...
Sment
Mae cynhyrchu sment yn gyfrifol am bron i 5% o ollyngiadau dynol byd-eang. Mae 1 tunell fetrig o gynhyrchu sment yn creu 960 kg o CO2
Biodanwyddau
Yn syml, nid oes digon o dir amaethyddol yn y byd i amnewid tanwyddau ffosil am fiodanwyddau. Bydd yn rhaid i ni eu defnyddio’n effeithlon, yn ogystal â defnyddio ffynonellau ynni eraill.
Adar Cymru a newid yn yr hinsawdd
Mae amcangyfrifon diweddar o boblogaethau adar Ewrop yn awgrymu bod poblogaethau 71% o rywogaethau adar wedi newid ers 1900, ac y gallai 44% o’r newidiadau hynny fod wedi digwydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mwy...
Trafodaeth Fawr y Newid yn yr Hinsawdd - Sut i gymryd rhan.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gefnogol ar gyfer Y Ddadl Fawr Newid Hinsawdd – Sut i chwarae eich rhan. 
Er mwyn llwytho i lawr neu ofyn am gopi caled galwch heibio
. Mae’r pecyn hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg gyda chardiau data ar gyfer y gwledydd a’r bobl allweddol fydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen, map o’r byd, awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a nodiadau i’r athro.
Cyfeiria dau weithgaredd yn benodol (1 a 6) at wybodaeth bellach sydd ar gael ar y wefan hon.
Gweithgaredd 1:Graffiau Dynol
Graff 3, Byrdwn y gweithgaredd hwn yw annog myfyrwyr yn y dosbarth i gynhyrchu graff gwasgariad i gymharu gwybodaeth ar y cardiau gwledydd. Gellir cael gafael ar daenlen gyda’r data arni yma i alluogi’r myfyrwyr baratoi eu graffiau eu hunain yn defnyddio Excel neu debyg.
Ôl-troed carbon. Dyma un elfen o’r ôl-troed eco a gyfrifir trwy drosi’r amrywiol allyriadau nwyon tŷ gwydr i dunelli o garbon deuocsid cyfatebol. Gall myfyrwyr ganfod beth sy’n gwneud ôl-troed carbon yma
Gellir canfod gwybodaeth fanylach a setiau data ôl-troed fan hyn. www.footprintnetwork.org
Taflen Gweithgaredd 6: Map Llifogydd Ar-lein
Gwnewch restr o wledydd sydd ag arfordir? Defnyddiwch atlas neu’r flood map ar-lein i benderfynu pa wledydd sydd mewn perygl wrth i lefel y môr godi
Os oes gennych gwestiynau neu adborth ar gyfer yr awdur, yna, cysylltwch â tim@ecocentre.org.uk