Olew a Phlastig

Plastig

Gwneir plastig o olew. Mae olew yn danwydd ffosil. Fe’i ffurfiwyd o weddillion creaduriaid môr bach, bach.

Plastig

Mae olew yn adnodd cyfyngedig, bydd yn diflannu yn y pendraw. Er gwaethf y gwelliannau yn y dechnoleg i ddarganfod olew, mae graddfa darganfod olew newydd yn lleihau.

Olew

Mae olew fel arfer yn cael ei ganfod yn ddwfn o dan ddaear, yn aml o dan y môr. Mae nifer o’r darganfyddiadau olew newydd yn golygu cael yr olew allan o fannau anodd iawn.

Olew

Mae’r galw am olew drwy’r byd wedi cynyddu ond nid yw’r cwmnïau olew wedi codi’r lefel cynhyrchu i gwrdd a’r angen hwn.

Plastig

Mae prosesu olew a’i droi i blastig yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr. Mae 2.5 kg o carbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu i bob kg o blastig.

Plastig

Nid yw plastig yn pydru. Ni fydd y carbon yn y plastig yn cael ei rhyddhau oni fydd y plastig yn cael ei losgi.

Plastig

Gellid ail-gylchu plastig. Mae sawl plastig cyffredin yn cael eu defnyddio fel defnydd pacio. Mae ganddynt symbol ail-gylchu sy’n cynnwys rhif i helpu eu rhannu ar gyfer ail-gylchu.

PET

Polyethylene terephthalate – Poteli diodydd byrlymus a phecynnau prydiau parod i’r popty.

HDPE

Polyethylen dwysedd uchel – Poteli llaeth a hylif golchi llestri.

PVC

Polyfinyl chlorid – padell fwyd, haenen lynu, poteli diod ffrwythau, dwr mwynol a shampŵ.

LDPE

Polyethylen dwysedd isel – Bagiau plastig a bagiau bin.

PP

Polypropylen – Twbiau marjarîn, padellu bwyd meicrodon.

PS

Polystyren – Potiau iogwrt, padelli o ewyn i ddal cig neu bysgod, bocsys hambyrger, bocsys wyau, cwpanau peiriant cyllyll a ffyrc plastig, pecynnu nwyddau trydan a thegannau

OTHER

Unrhyw blastig arall nad ydynt yn y categoriau uchod. – E.e melamin.

Plastig

Rhaid i blastig ar gyfer ei ail-gylchu fod mor lân a phosib. Maent yn fwy gwerthfawr os cawn eu storio yn ôl eu math.

Plastig

Gellid sortio PVC a PET yn syth trwy ddefnyddio pelydrau-x, ond mae sawl plastig yn cael ei sortio â llaw, sy’n ddrud. Ychydig iawn o ynni sy’n cael ei arbed pan fo ambell blastig yn cael ei ail-gylchu.

Plastig

Mae plastigau yn ddeunydd hyblyg a gwydn ac mae sawl defnydd pwysig iddyn nhw. Ond mae eu cynhyrchu yn creu gollyngiad o nwyon tŷ-gwydr a mathau eraill o lygredd.

Tanwydd

Rydym hefyd yn defnyddio olew i gynhyrchu tanwydd. Mae ynni sylweddol wedi’i storio mewn litr o betrol neu ddisel. Mae hyn yn eu gwneud yn danwydd delfrydol i drafnidiaeth.

Tanwydd

Daw ynni tanwydd ffosil o’r haul. Cynyddodd yr ynni yn y tanwydd ffosil dros filiynnau o flynyddoedd.

Tanwydd

Er mwyn cyfnewid cymaint â hyn o egni trwy ei ddal o’r haul mewn planhigion a’u troi wedyn i biodanwydd, byddai angen tir sylweddol. Mae angen y tir hwn i gynhyrchu bwyd.

Tanwydd

Mae llosgi tanwydd ffosil yn cynhyrchu’r nwyon sy’n achosi newid hinsawdd ac yn defnyddio deunyddiau crau gwerthfawr y gellid eu defnyddio i wneud cynnyrch tebyg i foddion. Rhaid i ni eu defnyddio’n effeithlon.

Activities

Olew

Ar fap o’r byd marciwch y prif wledydd sy’n cynhyrchu olew (Efallai bydd angen defnyddio’r rhyngrwyd neu’r llyfrgell i’ch helpu)

Olew

Dewch o hyd i bris cyfredol casgen o olew. Ydi’r pris yn codi neu’n disgyn?

Olew

Gofynnwch i’ch dosbarth gasglu’r bagiau plastig mae nhw’n eu defnyddio mewn wythnos. Gweithiwch allan eu hôl troed carbon.