Economi fyd-eang

Dewch i gyfarfod â’r teulu Morgan

Tad-cu: Tom glowr wedi ymddeol
Dad: Richard yn beiriannydd gyda Sony
Mum: Eleri yn nyrs

Dewch i gyfarfod â’r teulu Morgan

Rhys 16 oed + Sian 14 oed
Y ddau yn mynd i’r ysgol gyfun leol

Sian a Rhys

Sian a Rhys Cymry yn eu harddegau. Y ddau’n hoffi cerddoriaeth, siopa am ddillad newydd, syrffio’r we a bwyta yn MacDonald’s. Bob blwyddyn maen nhw’n hedfan dramor ar gyfer gwyliau haf, llynedd fe aethon nhw i’r India.

Sian a Rhys

Mae Sian a Rhys yn rhan o’r economi fyd-eang ond dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hynny eto

Tom y Tad-cu

Mae Tom y Tad-cu yn dweud wrth Rhys a Sian mai Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i droi’n ddiwydianol.

Ffermio

Roedd peiriannau’n golygu bod angen llai o bobl i weithio ar y ffermydd, felly daethant i’r trefi a’r dinasoedd i weithio yn y ffatrioedd mawr newydd.

Tom y Tad-cu

Roedd hyn oherwydd fod y glo a gloddiwyd yn cael ei ddefnyddio yn y ffatrioedd i wneud haearn a dur. Gellid gwneud peiriannau allan o’r haearn a’r dur.

Nwyddau

Danfonwyd y nwyddau a gynhyrchwyd ganddynt o bob cwr o’r byd.

Ffatrioedd

Daeth rhai pobl yn gyfoethog iawn ond roedd bywyd yn galed i’r rhai oedd yn gweithio yn y ffatrioedd.

Cyfoeth

Yn y pen draw cyrhaeddodd y cyfoeth nifer o bobl yn y DU a heddiw cymrwn yn ganiataol yr hawl i ofal iechyd da, gwasanaethau brys, bwyd, dŵr a chysgod.

-

Yn y rhan fwyaf o’r gwledydd datblygol, nid oes gofal iechyd am ddim na gwasanaethau brys am nad oes arian ganddynt i roi’r gwasanaethau yn eu lle.

Mewn gwledydd diwydiannol

Mewn gwledydd diwydiannol tebyg i’r DU, mae angen deunyddiau crai i wneud nwyddau yn y ffatrioedd. Daw’r rhan fwyaf o’r deunyddiau crai hyn o wledydd datblygol. Yn aml, nid oes llawer yn cael ei dalu am y deunyddiau hyn.

Tsiena a’r India.

Yn gynyddol mae nwyddau yn cael eu cynhyrchu mewn gwledydd sydd yn profi datblygu cyflym iawn tebyg i Tsiena a’r India. Yn aml mae’r gweithwyr yn derbyn tâl isel iawn am weithio oriau hir iawn. Mae pris uchel ar y nwyddau gorffenedig.

Newid Hinsawdd

Mae Sian a Rhys wedi dysgu bod y gwledydd cyfoethocach yn defnyddio mwy o’r nwyddau gwneuthuredig ynghyd ag egni ac yn gyfrifol am gynhyrchu’r nwyon tŷ gwydr mwyaf. Y nwyon hyn sy’n cyfrannu tuag at newidiadau hinsawdd.

Economi byd eang

Mae bod yn rhan o’r economi byd eang wedi rhoi mwy o ddewis i’r teulu Morgan.
Mae Eleri yn siopa yn un o’r archfarchnadoedd mawr ac yn prynu ei chynnyrch o bedwar ban byd.

Newid Hinsawdd

Mae Rhys yn gofidio y bydd newid hinsawdd yn cael mwy o effaith ar y gwledydd tlotach.

Newid Hinsawdd

Bydd sychder, llifogydd, lefel y môr yn codi a stormydd eithafol yn ei wneud yn anoddach i bobl dyfu cnydau er mwyn bwydo’u hunain neu ei werthu a’i allforio i wledydd cyfoethocach. Bydd pobl yn y gwledydd hynny yn wynebu amser caled iawn

Champa

Mae Sian wedi bod yn dysgu am ferch fach, Champa sy’n byw ym Mangladesh. Mae ei thad yn ffermwr, yn magu geifr a gwartheg ac mae’r arian mae’n ennill yn mynd tuag at dalu am ysgol i Champa.

Champa

Roedd gan dad Champa dir yn agos i’r afon ond wedi glaw trwm, gor-lifodd yr afon ac erydu ei dir. Nid yw’n gallu fforddio prynu rhagor.

Champa

Mae llifogydd yn digwydd fwyfwy ac mae Champa yn pryderu y bydd yn rhaid iddyn nhw symud ymhellach o’r afon.

Sian a Rhys

Mae Sian a Rhys wedi dysgu pe byddai pawb yn defnyddio adnoddau naturiol a chynhyrchu nwyon tŷ gwydr ar y cyflymdra y gwnawn hynny yng Nghymru, fe fyddai angen tair planed i’n cefnogi.

Teulu Morgan

Oherwydd y ffordd maen nhw’n byw, mae’r teulu Morgan yn pryderu eu bod o bosib yn cyfrannu at newid hinsawdd a mae nhw wedi penderfynu gwneud rhywbeth ynglyn â hynny.

Mae Eleri wedi bod yn brysur yn ceisio gweld...

Mae Eleri wedi bod yn brysur yn ceisio gweld yr hyn gall y teulu ei wneud i leihau ei defnydd o danwydd ffosil yn y cartre a chyda’r hyn maen nhw’n ei brynu.

Activities

Bingobyd

Download activity