Effeithiau Byd-eang
Effeithiau Byd-eang
Mae’r hinsawdd fyd-eang yn newid eisoes. Mae tymheredd cyfartalog y byd wedi cynyddu o 0.6 gradd yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.
Effeithiau Byd-eang
Mae gwyddonwyr yn cyfrifo y bydd tymheredd y byd yn cynyddu rhwng 1.4 a 5.8 gradd Celsius.
Effeithiau Byd-eang
Rhagwelir cynnydd o 1.4 gradd mewn tymheredd ar gyfer senario B2.
Senario B2 yw lle bydd pobl yn byw mewn cymunedau cynaliadwy, gyda nwyddau a gwasanaethau yn cael eu ffynonellu yn lleol.
Effeithiau Byd-eang
Rhagwelir cynnydd o 5.8 gradd mewn tymheredd ar gyfer senario A1.
Ystyr senario A1 yw twf economaidd byd-eang heb ei gyfyngu. Nwyddau a gwasanaethau yn cael eu hadnoddu yn fyd-eang.
Effeithiau Byd-eang
Bydd tymereddau byd-eang uwch yn golygu bod mwy o ynni ar gael ar gyfer y gylchred ddŵr.
Effeithiau Byd-eang
Mae hyn yn golygu y gall mwy o anwedd dŵr fynd i’r atmosffer. Pan achosir i law gwympo wedi hynny, bydd mwy o ddŵr ar gael i allu cwympo fel glaw neu eira.
Effeithiau Byd-eang
Achosir gwynt gan y ffaith fod tymheredd gwahanol gan rannau gwahanol o’r byd. Bydd byd cynhesach yn arwain at wyntoedd cryfach. Bydd hinsawdd gynhesach i’r byd yn cynyddu’r tebygolrwydd o gael tywydd difrifol.
Effeithiau Byd-eang
Mae rhai gwledydd, fel UDA a Japan, yn cael stormydd mawr yn ystod tymhorau penodol. Mae amlder a chryfder y stormydd hyn yn cynyddu eisoes.
Dyma lun o Gorwynt Katrina
Effeithiau Byd-eang
Wrth i gefnforoedd y byd gynhesu, byddant yn ehangu. Disgwylir i lefel y môr gynyddu o 1m yn ystod y 100 mlynedd nesaf.
Effeithiau Byd-eang
Gallai cymaint â 250 miliwn o bobl ledled y byd gael eu dadleoli gan gynnydd yn lefel y môr yn unig.
Effeithiau Byd-eang
Ar yr un pryd, bydd llawer o wledydd yn cael cyfnodau sych hirdymor.
Effeithiau Byd-eang
Efallai y ceir gwrthdaro dros adnoddau ac ymfudo. Mae’n bosibl y gallai llawer o dir amaethyddol y byd gael ei niweidio gan lifogydd. Efallai y bydd llawer o gnydau yn methu oherwydd sychder. Efallai y caiff rhyfeloedd eu hymladd dros fwyd, dŵr ac ynni
Effeithiau Byd-eang
Mae rhewlifau yn lleihau o ran maint. Mae llawer o gynefinoedd yn cael eu colli ac mae rhywogaethau yn diflannu eisoes.