Pŵer Gwynt

P£#373;er Gwynt

Defnyddir gwynt ers blynyddoedd i roi ynni i ni naill ai ar gyfer hwylio o amgylch y byd neu i yrru melinau gwynt.

Pŵer Gwynt

Caiff y gwynt ei ffurfio gan awelon aer cynnes anferth yn atmosffer y Ddaear, a yrrir gan ynni gwres o’r haul. Bydd gan yr aer sy’n symud lawer iawn o ynni, y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbinau gwynt.

Pŵer Gwynt

Bydd tyrbinau gwynt yn harneisio symudiad yr aer i gynhyrchu ynni. Bydd y gwynt yn troi’r llafnau, a fydd yn troi paladr rotor; wrth i’r paladr droi, bydd yn troi generadur trydan. Yn aml, caiff tyrbinau gwynt eu grwpio gyda’i gilydd mewn ffermydd gwynt.

Mae dau brif fath o fferm wynt:

Adeiladir ffermydd gwynt ar y tir, gyda sylfeini’r tyrbinau gwynt yn cael eu gosod yn ddwfn ym mhridd ardal a archwiliwyd i ddangos ei bod yn cael llawer o wynt. Mae mwy na 70 o ffermydd gwynt ar y tir yn y DU, ac ystyrir y gallai ynni’r gwynt fod yn cyflenwi 10% o drydan y DU erbyn 2025

Mae dau brif fath o fferm wynt

Caiff ffermydd gwynt yn y môr eu hadeiladu ar wely’r môr, unwaith yn rhagor mewn ardaloedd a chanddynt gyflenwad dibynadwy o wynt. Mae 13 o ffermydd gwynt yn y môr yn y DU ar hyn o bryd.

Pŵer Gwynt:

Ni all tyrbinau gwynt weithio os nad oes unrhyw wynt, neu os bydd cyflymder y gwynt yn rhy bwerus.

Pŵer Gwynt

Mae ffermydd gwynt yn darparu ffynhonnell lân o ynni, ond mae iddynt anfanteision.
Mae rhai pobl o’r farn eu bod yn dinistrio golygfeydd, a gallant fod yn swnllyd dan amodau gwyntog. Yn aml, bydd lleoliadau addas ar gyfer ffermydd gwynt mewn ardaloedd o brydferthwch, fel ar ochrau mynyddoedd.

Activities

Ynni gwynt

Download activity