Newid Hinsawdd Cymru Cartref
Croeso i Newid yn yr Hinsawdd CymruElusen gofrestredig a leolir yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, yw Canolfan Eco Gorllewin Cymru. Rydym yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol defnyddio ynni. Rydym yn ymddiddori’n bennaf yn y newid yn yr hinsawdd a geir o ganlyniad i ddefnyddio ynni. Mae gan wyddonwyr dystiolaeth gref fod y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd gennym yn newid hinsawdd y byd.
Mae’n ym ddangos bod newyddion am Newid Hinsawdd ym mhob man y dyddiau hyn. Efallai bod gwreiddiau hyn mewn gwyddoniaeth, ond mae ganddo oblygiadau i wleidyddiaeth, arian, grym a’n bywydau personol. Dyma fydd y pwnc llosg heb os am y 100 mlynedd nesaf. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi’r wybodaeth gywir am ei effeithiau ar Gymru, er mwyn i chi allu gwneud y penderfyniadau gorau ar eich rhan eich hun a’ch cymuned.
Rydym am glywed eich barn chi am y newid yn yr hinsawdd!
Ydych chi’n iau na 25? Oes diddordeb gennych chi yn y newid yn yr hinsawdd? Ymunwch â’r ddadl ar y newid yn yr hinsawdd a dweud eich dweud – rydym am glywed gennych! Mae Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru wedi sefydlu grŵp ar Facebook o’r enw ‘Ein Dyfodol, Ein Llais’.
Nod y grŵp hwn yw annog pobl ifanc yng Nghymru i: - Ddweud eu barn am y newid yn yr hinsawdd wrth yr Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd; - Trafod materion y newid yn yr hinsawdd a rhannu gwybodaeth am brosiectau perthnasol ledled Cymru; - Mynegi eu barn am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddod â phobl o ystod eang o sefydliadau at ei gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys pobl o fyd gwleidyddiaeth, busnes, o awdurdodau lleol, o fyd masnach ac eraill. Cadeirydd y Comisiwn yw Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, ac mae llawer o bobl ddylanwadol yn cymryd rhan. Diben y Comisiwn yw rhoi arweiniad ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, a chytuno ar yr hyn sydd angen ei wneud yng Nghymru. Bydd o leiaf un Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yn bresennol ym mhob cyfarfod, a byddant yn cyflwyno safbwyntiau’r grŵp Facebook ar ran holl bobl ifanc Cymru. Y cwestiwn sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd yw: "Ai lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol neu addasu i fyw mewn amodau tywydd eithafol fyddai hawsaf?" Pam na wnewch chi ymuno â ni? Ewch i Facebook, ymunwch â’r grŵp a dweud eich dweud wrthym ni!
http://www.facebook.com/group.php?gid=333386876379&ref=ts#!/group.php?gid=333386876379&v=wall&ref=ts
Er ein bod ni wedi ymdrechu i oirhrain a chydnabod pob daliwr hawlfraint, hoffem ymddiheuro am unrhyw gamgymeriad neu esgeulustra.
|
Adar Cymru a newid yn yr hinsawddMae effeithiau newid yn yr hinsawdd ar adar yn amrywio, yn dibynnu a yw’r adar hynny’n preswylio yng Nghymru, yn dod yma yn yr haf i fagu, neu’n treulio’r gaeaf yng Nghymru er mwyn osgoi tywydd caled. Mwy...
|
Defnyddiwch y map cwbl ryngweithiol hwn i weld sut y bydd cynnydd yn lefel y môr yn newid siâp Cymru a gwledydd eraill o amgylch y byd.Mapiau Llifogydd |


